Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 9:29-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt, i'w dychwelyd at dy gyfraith di: ond hwy a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau, (y rhai os gwna dyn hwynt, efe fydd byw ynddynt,) a gwnaethant ysgwydd i gilio, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant.

30. Er hynny ti a'u hoedaist hwynt flynyddoedd lawer, ac a dystiolaethaist wrthynt trwy dy ysbryd yn dy broffwydi; ond ni wrandawsant: am hynny y rhoddaist hwynt yn llaw pobl y gwledydd.

31. Eto, er mwyn dy fawr drugareddau, ni lwyr ddifethaist hwynt, ac ni wrthodaist hwynt; canys Duw graslon a thrugarog ydwyt.

32. Ac yn awr, O ein Duw ni, y Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn wyt yn cadw cyfamod a thrugaredd; na fydded bychan o'th flaen di yr holl flinder a ddigwyddodd i ni, i'n brenhinoedd, i'n tywysogion, ac i'n hoffeiriaid, ac i'n proffwydi, ac i'n tadau, ac i'th holl bobl, er dyddiau brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.

33. Tithau ydwyt gyfiawn yn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni: canys gwirionedd a wnaethost ti, a ninnau a wnaethom yn annuwiol.

34. Ein brenhinoedd hefyd, ein tywysogion, ein hoffeiriaid, a'n tadau, ni chadwasant dy gyfraith, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, na'th dystiolaethau, y rhai a dystiolaethaist wrthynt.

35. A hwy ni'th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth, nac yn dy fawr ddaioni a roddaist iddynt, nac yn y wlad eang a bras yr hon a osodaist o'u blaen hwynt; ac ni ddychwelasant oddi wrth eu drwg weithredoedd.

36. Wele ni heddiw yn weision; ac am y wlad a roddaist i'n tadau ni, i fwyta ei ffrwyth a'i daioni, wele ni yn weision ynddi.

37. A mawr yw ei thoreth hi i'r brenhinoedd a osodaist arnom ni am ein pechodau: ac arglwyddiaethu y maent ar ein cyrff, ac ar ein hanifeiliaid, yn ôl eu hewyllys; ac yr ydym mewn cyfyngder mawr.

38. Ac oherwydd hyn oll yr ydym yn gwneuthur cyfamod sicr, ac yn ei ysgrifennu; ac y mae ein tywysogion, ein Lefiaid, a'n hoffeiriaid, yn ei selio.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 9