Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 9:2-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A had Israel a ymneilltuasant oddi wrth bob dieithriaid, ac a safasant, ac a gyffesasant eu pechodau, ac anwireddau eu tadau.

3. A chodasant i fyny yn eu lle, ac a ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr Arglwydd eu Duw, bedair gwaith yn y dydd; a phedair gwaith yr ymgyffesasant, ac yr ymgrymasant i'r Arglwydd eu Duw.

4. Yna y safodd ym mhulpud y Lefiaid, Jesua, a Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani, a Chenani; a gwaeddasant â llef uchel ar yr Arglwydd eu Duw:

5. A'r Lefiaid, Jesua, a Chadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia, a Phethaheia, a ddywedasant, Cyfodwch, bendithiwch yr Arglwydd eich Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: a bendithier dy enw gogoneddus a dyrchafedig, goruwch pob bendith a moliant.

6. Ti yn unig wyt Arglwydd: ti a wnaethost y nefoedd, nefoedd y nefoedd, a'u holl luoedd hwynt, y ddaear a'r hyn oll sydd arni, y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti.

7. Ti yw yr Arglwydd Dduw, yr hwn a ddetholaist Abram, ac a'i dygaist ef allan o Ur y Caldeaid, ac a roddaist iddo enw Abraham:

8. A chefaist ei galon ef yn ffyddlon ger dy fron di, ac a wnaethost gyfamod ag ef, ar roddi yn ddiau i'w had ef wlad y Canaaneaid, yr Hefiaid, yr Amoriaid, a'r Pheresiaid, a'r Jebusiaid, a'r Girgasiaid; ac a gwblheaist dy eiriau: oherwydd cyfiawn wyt.

9. Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn yr Aifft; a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr coch:

10. A thi a wnaethost arwyddion a rhyfeddodau ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar holl bobl ei wlad ef: canys gwybuost i'r rhai hyn falchïo yn eu herbyn hwynt. A gwnaethost i ti enw, fel y gwelir y dydd hwn.

11. Y môr hefyd a holltaist o'u blaen hwynt, fel y treiddiasant trwy ganol y môr ar hyd sychdir; a'u herlidwyr a fwriaist i'r gwaelod, fel maen i ddyfroedd cryfion:

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 9