Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 8:13-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A'r ail ddydd, tadau pennaf yr holl bobl, yr offeiriaid, a'r Lefiaid, a ymgynullasant at Esra yr ysgrifennydd, i'w dysgu yng ngeiriau y gyfraith.

14. A hwy a gawsant yn ysgrifenedig yn y gyfraith, yr hyn a orchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses, y dylai meibion Israel drigo mewn bythod ar ŵyl y seithfed mis;

15. Ac y dylent gyhoeddi, a gyrru gair trwy eu holl ddinasoedd, a thrwy Jerwsalem, gan ddywedyd, Ewch i'r mynydd, a dygwch ganghennau olewydd, a changau pinwydd, a changau y myrtwydd, a changau y palmwydd, a changhennau o'r prennau caeadfrig, i wneuthur bythod, fel y mae yn ysgrifenedig.

16. Felly y bobl a aethant allan, ac a'u dygasant, ac a wnaethant iddynt fythod, bob un ar ei nen, ac yn eu cynteddoedd, ac yng nghynteddoedd tŷ Dduw, ac yn heol porth y dwfr, ac yn heol porth Effraim.

17. A holl gynulleidfa y rhai a ddychwelasent o'r caethiwed, a wnaethant fythod, ac a eisteddasant yn y bythod: canys er dyddiau Josua mab Nun hyd y dydd hwnnw ni wnaethai meibion Israel felly. Ac yr oedd llawenydd mawr iawn.

18. Ac Esra a ddarllenodd yn llyfr cyfraith Dduw beunydd, o'r dydd cyntaf hyd y dydd diwethaf. A hwy a gynaliasant yr ŵyl saith niwrnod; ac ar yr wythfed dydd y bu cymanfa, yn ôl y ddefod.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 8