Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 7:8-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Meibion Paros, dwy fil cant a deuddeg a thrigain.

9. Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain.

10. Meibion Ara, chwe chant a deuddeg a deugain.

11. Meibion Pahath‐Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil ac wyth gant a thri ar bymtheg.

12. Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain.

13. Meibion Sattu, wyth gant a phump a deugain.

14. Meibion Saccai, saith gant a thrigain.

15. Meibion Binnui, chwe chant ac wyth a deugain.

16. Meibion Bebai, chwe chant ac wyth ar hugain.

17. Meibion Asgad, dwy fil tri chant a dau ar hugain.

18. Meibion Adonicam, chwe chant a saith a thrigain.

19. Meibion Bigfai, dwy fil a saith a thrigain.

20. Meibion Adin, chwe chant a phymtheg a deugain.

21. Meibion Ater o Heseceia, tri ar bymtheg a phedwar ugain.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 7