59. Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Amon.
60. Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant a deuddeg a phedwar ugain.
61. A'r rhai hyn a ddaethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐haresa, Cerub, Adon, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na'u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt.
62. Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a dau a deugain.
63. Ac o'r offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai, yr hwn a gymerth un o ferched Barsilai y Gileadiad yn wraig, ac a alwyd ar eu henw hwynt.
64. Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond nis cafwyd: am hynny y bwriwyd hwynt allan o'r offeiriadaeth.
65. A'r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o'r pethau sancteiddiolaf, hyd oni chyfodai offeiriaid ag Urim ac â Thummim.
66. Yr holl gynulleidfa ynghyd oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain.
67. Heblaw eu gweision hwynt a'u morynion, y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: a chanddynt hwy yr oedd dau cant a phump a deugain o gantorion ac o gantoresau.
68. Eu meirch hwynt oedd saith gant ac un ar bymtheg ar hugain; a'u mulod yn ddau cant a phump a deugain;
69. Y camelod oedd bedwar cant a phymtheg ar hugain; yr asynnod oedd chwe mil saith gant ac ugain.
70. A rhai o'r tadau pennaf a roddasant tuag at y gwaith. Y Tirsatha a roddodd i'r trysor fil o ddracmonau aur, deg a deugain o ffiolau, pum cant a deg ar hugain o wisgoedd offeiriaid.
71. A rhai o'r tadau pennaf a roddasant i drysor y gwaith ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil a deucant o bunnau o arian.
72. A'r hyn a roddodd y rhan arall o'r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o bunnau yn arian, a saith a thrigain o wisgoedd offeiriaid.
73. A'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r porthorion, a'r cantorion, a rhai o'r bobl, a'r Nethiniaid, a holl Israel, a drigasant yn eu dinasoedd. A phan ddaeth y seithfed mis, yr oedd meibion Israel yn eu dinasoedd.