19. Meibion Bigfai, dwy fil a saith a thrigain.
20. Meibion Adin, chwe chant a phymtheg a deugain.
21. Meibion Ater o Heseceia, tri ar bymtheg a phedwar ugain.
22. Meibion Hasum, tri chant ac wyth ar hugain.
23. Meibion Besai, tri chant a phedwar ar hugain.
24. Meibion Hariff, cant a deuddeg.
25. Meibion Gibeon, pymtheg a phedwar ugain.
26. Gwŷr Bethlehem a Netoffa, cant ac wyth a phedwar ugain.
27. Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain.
28. Gwŷr Beth‐asmafeth, dau a deugain.
29. Gwŷr Ciriath‐jearim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain.
30. Gwŷr Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain.
31. Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain.
32. Gwŷr Bethel ac Ai, cant a thri ar hugain.