1. Ac wedi adeiladu y mur, a chyfodi ohonof y dorau, a gosod y porthorion, a'r cantorion, a'r Lefiaid;
2. Yna mi a orchmynnais i Hanani fy mrawd, ac i Hananeia tywysog y palas yn Jerwsalem, canys efe oedd ŵr ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer:
3. A mi a ddywedais wrthynt, Nac agorer pyrth Jerwsalem nes gwresogi yr haul; a thra fyddont hwy yn sefyll yno, caeant y drysau, a phreniant: a mi a osodais wylwyr o drigolion Jerwsalem, pob un yn ei wyliadwriaeth, a phob un ar gyfer ei dŷ.
4. A'r ddinas oedd eang a mawr; ac ychydig bobl ynddi: a'r tai nid oeddynt wedi eu hadeiladu.
5. A'm Duw a roddodd yn fy nghalon gynnull y pendefigion, y tywysogion hefyd, a'r bobl, i'w cyfrif wrth eu hachau. A mi a gefais lyfr achau y rhai a ddaethai i fyny yn gyntaf, a chefais yn ysgrifenedig ynddo,
6. Dyma feibion y dalaith, y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac i Jwda, pob un i'w ddinas ei hun;
7. Y rhai a ddaethant gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Asareia, Raamia, Nahamani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum, Baana. Dyma rifedi dynion pobl Israel;
8. Meibion Paros, dwy fil cant a deuddeg a thrigain.
9. Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain.
10. Meibion Ara, chwe chant a deuddeg a deugain.
11. Meibion Pahath‐Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil ac wyth gant a thri ar bymtheg.
12. Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain.