Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 4:14-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a'r swyddogion, ac wrth y rhan arall o'r bobl, Nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr Arglwydd mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a'ch merched, eich gwragedd a'ch tai.

15. A phan glybu ein gelynion fod y peth yn hysbys i ni, Duw a ddiddymodd eu cyngor hwynt; a ninnau oll a ddychwelasom at y mur, bawb i'w waith.

16. Ac o'r dydd hwnnw, hanner fy ngweision oedd yn gweithio yn y gwaith, a'u hanner hwynt oedd yn dal gwaywffyn, a tharianau, a bwâu, a llurigau; a'r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Jwda.

17. Y rhai oedd yn adeiladu ar y mur, ac yn dwyn beichiau, a'r rhai oedd yn llwytho, oeddynt ag un llaw yn gweithio yn y gwaith, ac â'r llaw arall yn dal arf.

18. Canys pob un o'r adeiladwyr oedd wedi gwregysu ei gleddyf ar ei glun, ac yn adeiladu: a'r hwn oedd yn lleisio mewn utgorn ydoedd yn fy ymyl i.

19. A mi a ddywedais wrth y pendefigion, ac wrth y swyddogion, ac wrth y rhan arall o'r bobl, Y gwaith sydd fawr a helaeth, a nyni a wasgarwyd ar hyd y mur, ymhell oddi wrth ein gilydd.

20. Yn y fan lle y clywoch sain yr utgorn, yno ymgesglwch atom. Ein Duw ni a ymladd drosom.

21. Felly yr oeddem ni yn gweithio yn y gwaith: a'u hanner hwynt yn dal gwaywffyn, o gyfodiad y wawr hyd gyfodiad y sêr.

22. Dywedais hefyd y pryd hwnnw wrth y bobl, Lletyed pob un â'i was yn Jerwsalem, fel y byddont i ni yn wyliadwriaeth y nos, a'r dydd mewn gwaith.

23. Felly myfi, a'm brodyr, a'm gweision, a'r gwylwyr oedd ar fy ôl, ni ddiosgasom ein dillad, ond a ddiosgai pob un i'w golchi.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 4