Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 2:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac ym mis Nisan, yn yr ugeinfed flwyddyn i Artacsercses y brenin, yr oedd gwin o'i flaen ef: a mi a gymerais y gwin, ac a'i rhoddais i'r brenin. Ond ni byddwn arferol o fod yn drist ger ei fron ef.

2. Am hynny y brenin a ddywedodd wrthyf, Paham y mae dy wynepryd yn drist, a thithau heb fod yn glaf? nid yw hyn ond tristwch calon. Yna yr ofnais yn ddirfawr:

3. A dywedais wrth y brenin, Byw fyddo'r brenin yn dragywydd: paham na thristâi fy wyneb, pan fyddai y ddinas, tŷ beddrod fy nhadau, wedi ei dinistrio, a'i phyrth wedi eu hysu â thân?

4. A'r brenin a ddywedodd wrthyf, Pa beth yr wyt ti yn ei ddymuno? Yna y gweddïais ar Dduw y nefoedd.

5. A mi a ddywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i'r brenin, ac od yw dy was yn gymeradwy ger dy fron di, ar i ti fy anfon i Jwda, i ddinas beddrod fy nhadau, fel yr adeiladwyf hi.

6. A'r brenin a ddywedodd wrthyf, a'i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef, Pa hyd y bydd dy daith di, a pha bryd y dychweli? A gwelodd y brenin yn dda fy anfon i, a minnau a nodais iddo amser.

7. Yna y dywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i'r brenin, rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o'r tu hwnt i'r afon, fel y trosglwyddont fi nes fy nyfod i Jwda;

8. A llythyr at Asaff, ceidwad coedwig y brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i'r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i'r tŷ yr elwyf iddo. A'r brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy Nuw arnaf fi.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 2