21. O Hilceia, Hasabeia: o Jedaia, Nethaneel.
22. Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib, Joiada, a Johanan, a Jadua, oedd wedi eu hysgrifennu yn bennau‐cenedl: a'r offeiriaid, hyd deyrnasiad Dareius y Persiad.
23. Meibion Lefi, y pennau‐cenedl, wedi eu hysgrifennu yn llyfr y croniclau, hyd ddyddiau Johanan mab Eliasib.
24. A phenaethiaid y Lefiaid, oedd Hasabeia, Serebeia, a Jesua mab Cadmiel, a'u brodyr ar eu cyfer, i ogoneddu ac i foliannu, yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, gwyliadwriaeth ar gyfer gwyliadwriaeth.
25. Mataneia, a Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, Accub, oedd borthorion, yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau y pyrth.
26. Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim mab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog, ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd.
27. Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o'u holl leoedd, i'w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau.
28. A meibion y cantorion a ymgynullasant o'r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem, ac o drefydd Netoffathi,
29. Ac o dŷ Gilgal, ac o feysydd Geba ac Asmafeth: canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch Jerwsalem.
30. Yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid a ymlanhasant; glanhasant hefyd y bobl, a'r pyrth, a'r mur.
31. A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo ar y mur; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom:
32. Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia, a hanner tywysogion Jwda,
33. Asareia hefyd, Esra, a Mesulam,