16. Sabbethai hefyd, a Josabad, o benaethiaid y Lefiaid, oedd oruchaf ar y gwaith o'r tu allan i dŷ Dduw.
17. Mataneia hefyd mab Micha, fab Sabdi, fab Asaff, oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi: a Bacbuceia yn ail o'i frodyr; ac Abda mab Sammua, fab Galal, fab Jedwthwn.
18. Yr holl Lefiaid yn y ddinas sanctaidd, oedd ddau cant a phedwar a phedwar ugain.
19. A'r porthorion, Accub, Talmon, a'u brodyr yn cadw y pyrth, oedd gant a deuddeg a thrigain.
20. A'r rhan arall o Israel, o'r offeiriaid ac o'r Lefiaid a drigent yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth.
21. Ond y Nethiniaid oeddynt yn aros yn y tŵr: Siha a Gispa oedd ar y Nethiniaid.
22. A swyddog y Lefiaid yn Jerwsalem, oedd Ussi mab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Micha: o feibion Asaff, y cantorion oedd ar waith tŷ Dduw.