Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 11:13-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A'i frodyr, pennau‐cenedl, dau cant a dau a deugain: ac Amasai mab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer,

14. A'u brodyr hwynt, yn gedyrn o nerth, oedd gant ac wyth ar hugain: a Sabdiel mab Haggedolim yn swyddog arnynt.

15. Ac o'r Lefiaid: Semaia mab Hasub, fab Asricam, fab Hasabeia fab Bunni.

16. Sabbethai hefyd, a Josabad, o benaethiaid y Lefiaid, oedd oruchaf ar y gwaith o'r tu allan i dŷ Dduw.

17. Mataneia hefyd mab Micha, fab Sabdi, fab Asaff, oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi: a Bacbuceia yn ail o'i frodyr; ac Abda mab Sammua, fab Galal, fab Jedwthwn.

18. Yr holl Lefiaid yn y ddinas sanctaidd, oedd ddau cant a phedwar a phedwar ugain.

19. A'r porthorion, Accub, Talmon, a'u brodyr yn cadw y pyrth, oedd gant a deuddeg a thrigain.

20. A'r rhan arall o Israel, o'r offeiriaid ac o'r Lefiaid a drigent yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth.

21. Ond y Nethiniaid oeddynt yn aros yn y tŵr: Siha a Gispa oedd ar y Nethiniaid.

22. A swyddog y Lefiaid yn Jerwsalem, oedd Ussi mab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Micha: o feibion Asaff, y cantorion oedd ar waith tŷ Dduw.

23. Canys gorchymyn y brenin amdanynt hwy oedd, fod ordinhad safadwy i'r cantorion, dogn dydd yn ei ddydd.

24. A Phethaheia mab Mesesabeel, o feibion Sera mab Jwda, oedd wrth law y brenin ym mhob peth a berthynai i'r bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 11