1. A thywysogion y bobl a drigasant yn Jerwsalem: a'r rhan arall o'r bobl a fwriasant goelbrennau i ddwyn un o'r deg i drigo yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill.
2. A'r bobl a fendithiasant yr holl wŷr a ymroddasent yn ewyllysgar i breswylio yn Jerwsalem.
3. A dyma benaethiaid y dalaith, y rhai a drigasant yn Jerwsalem: ond yn ninasoedd Jwda pawb a drigasant yn eu meddiant o fewn eu dinasoedd, sef Israel, yr offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r Nethiniaid, a meibion gweision Solomon.
4. A rhai o feibion Jwda ac o feibion Benjamin a drigasant yn Jerwsalem. O feibion Jwda; Athaia mab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel, o feibion Peres;
5. Maaseia hefyd mab Baruch, fab Col‐hose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Sechareia, fab Siloni.
6. Holl feibion Peres y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem, oedd bedwar cant ac wyth a thrigain o wŷr grymus.
7. A dyma feibion Benjamin; Salu mab Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Jesaia.