Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 10:33-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. A thuag at y bara gosod, a'r bwyd‐offrwm gwastadol, a thuag at y poethoffrwm gwastadol, y Sabothau, y newyddloerau, a'r gwyliau arbennig, a thuag at y cysegredig bethau, a thuag at y pech-ebyrth, i wneuthur cymod dros Israel; a thuag at holl waith tŷ ein Duw.

34. A ni a fwriasom goelbrennau yr offeiriaid, y Lefiaid, a'r bobl, am goed yr offrwm, fel y dygent hwynt i dŷ ein Duw ni, yn ôl tai ein tadau ni, ar amserau nodedig, o flwyddyn i flwyddyn, i'w llosgi ar allor yr Arglwydd ein Duw, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith:

35. Ac i ddwyn blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth o bob ffrwyth o bob pren, o flwyddyn i flwyddyn, i dŷ yr Arglwydd:

36. A'r rhai cyntaf‐anedig o'n meibion, ac o'n hanifeiliaid, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith, a chyntaf‐anedigion ein gwartheg a'n defaid, i'w dwyn i dŷ ein Duw, at yr offeiriaid sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein Duw ni.

37. A blaenion ein toes, a'n hoffrymau, a ffrwyth pob pren, gwin ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein Duw, a degwm ein tir i'r Lefiaid; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni.

38. A bydd yr offeiriad, mab Aaron, gyda'r Lefiaid, pan fyddo'r Lefiaid yn degymu: a dyged y Lefiaid i fyny ddegfed ran y degwm i dŷ ein Duw ni, i'r celloedd yn y trysordy.

39. Canys meibion Israel a meibion Lefi a ddygant offrwm yr ŷd, y gwin, a'r olew, i'r ystafelloedd, lle y mae llestri'r cysegr, a'r offeiriaid sydd yn gweini, a'r porthorion, a'r cantorion; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 10