Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 1:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Gwnaethom yn llygredig iawn i'th erbyn, ac ni chadwasom y gorchmynion, na'r deddfau, na'r barnedigaethau, a orchmynnaist i Moses dy was.

8. Cofia, atolwg, y gair a orchmynnaist wrth Moses dy was, gan ddywedyd, Os chwi a droseddwch, myfi a'ch gwasgaraf chwi ymysg y bobloedd:

9. Ond os dychwelwch ataf fi, a chadw fy ngorchmynion, a'u gwneuthur hwynt; pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y nefoedd, eto mi a'u casglaf hwynt oddi yno, ac a'u dygaf i'r lle a etholais i drigo o'm henw ynddo.

10. A hwy ydynt dy weision a'th bobl, y rhai a waredaist â'th fawr allu, ac â'th law nerthol.

11. Atolwg, Arglwydd, bydded yn awr dy glust yn gwrando ar weddi dy was, ac ar weddi dy weision y rhai sydd yn ewyllysio ofni dy enw: llwydda hefyd, atolwg, dy was heddiw, a chaniatâ iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn. Canys myfi oedd drulliad i'r brenin.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 1