Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 1:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Geiriau Nehemeia mab Hachaleia. A bu ym mis Cisleu, yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn i ym mrenhinllys Susan,

2. Ddyfod o Hanani, un o'm brodyr, efe a gwŷr o Jwda; a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai, y rhai a adawsid o'r caethiwed, ac am Jerwsalem.

3. A hwy a ddywedasant wrthyf, Y gweddillion, y rhai a adawyd o'r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder mawr a gwaradwydd: mur Jerwsalem hefyd a ddrylliwyd, a'i phyrth a losgwyd â thân.

4. A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais ac a wylais, ac a alerais dalm o ddyddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddïo gerbron Duw y nefoedd;

5. A dywedais, Atolwg, Arglwydd Dduw y nefoedd, y Duw mawr ac ofnadwy, yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i'r rhai a'i carant ef ac a gadwant ei orchmynion:

6. Bydded, atolwg, dy glust yn clywed, a'th lygaid yn agored, i wrando ar weddi dy was, yr hon yr ydwyf fi yn ei gweddïo ger dy fron di yr awr hon ddydd a nos, dros feibion Israel dy weision, ac yn cyffesu pechodau meibion Israel, y rhai a bechasom i'th erbyn: myfi hefyd a thŷ fy nhad a bechasom.

7. Gwnaethom yn llygredig iawn i'th erbyn, ac ni chadwasom y gorchmynion, na'r deddfau, na'r barnedigaethau, a orchmynnaist i Moses dy was.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 1