1. Geiriau Nehemeia mab Hachaleia. A bu ym mis Cisleu, yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn i ym mrenhinllys Susan,
2. Ddyfod o Hanani, un o'm brodyr, efe a gwŷr o Jwda; a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai, y rhai a adawsid o'r caethiwed, ac am Jerwsalem.
3. A hwy a ddywedasant wrthyf, Y gweddillion, y rhai a adawyd o'r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder mawr a gwaradwydd: mur Jerwsalem hefyd a ddrylliwyd, a'i phyrth a losgwyd â thân.