1. Baich Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad.
2. Duw sydd eiddigus, a'r Arglwydd sydd yn dial; yr Arglwydd sydd yn dial, ac yn berchen llid: dial yr Arglwydd ar ei wrthwynebwyr, a dal dig y mae efe i'w elynion.
3. Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, a mawr ei rym, ac ni ddieuoga yr anwir: yr Arglwydd sydd a'i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a'r cymylau yw llwch ei draed ef.
4. Efe a gerydda y môr, ac a'i sych; yr holl afonydd a ddihysbydda efe: llesgaodd Basan a Charmel, a llesgaodd blodeuyn Libanus.
5. Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a'r bryniau a doddant, a'r ddaear a lysg gan ei olwg, a'r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo.
6. Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd yng nghynddaredd ei ddigofaint ef? ei lid a dywelltir fel tân, a'r creigiau a fwrir i lawr ganddo.
7. Daionus yw yr Arglwydd, amddiffynfa yn nydd blinder; ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo.
8. A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef.
9. Beth a ddychmygwch yn erbyn yr Arglwydd? efe a wna dranc; ni chyfyd blinder ddwywaith.
10. Canys tra yr ymddrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo.
11. Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr Arglwydd: cynghorwr drygionus.
12. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pe byddent heddychol, ac felly yn aml, eto fel hyn y torrir hwynt i lawr, pan elo efe heibio. Er i mi dy flino, ni'th flinaf mwyach.
13. Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau.
14. Yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd o'th blegid, na heuer o'th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a'r dawdd ddelw: gwnaf dy fedd; canys gwael ydwyt.
15. Wele ar y mynyddoedd draed yr efengylwr, cyhoeddwr heddwch: cadw di, O Jwda, dy wyliau, tâl dy addunedau: canys nid â y drygionus trwot mwy; cwbl dorrwyd ef ymaith.