Hen Destament

Testament Newydd

Micha 7:2-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Darfu am y duwiol oddi ar y ddaear, ac nid oes un uniawn ymhlith dynion; cynllwyn y maent oll am waed; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd.

3. I wneuthur drygioni â'r ddwy law yn egnïol, y tywysog a ofyn, a'r barnwr am wobr; a'r hwn sydd fawr a ddywed lygredigaeth ei feddwl: felly y plethant ef.

4. Y gorau ohonynt sydd fel miaren, yr unionaf yn arwach na chae drain; dydd dy wylwyr, a'th ofwy, sydd yn dyfod: bellach y bydd eu penbleth hwynt.

5. Na chredwch i gyfaill, nac ymddiriedwch i dywysog: cadw ddrws dy enau rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes.

6. Canys mab a amharcha ei dad, y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr: a gelynion gŵr yw dynion ei dŷ.

7. Am hynny mi a edrychaf ar yr Arglwydd, disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth: fy Nuw a'm gwrendy.

8. Na lawenycha i'm herbyn, fy ngelynes: pan syrthiwyf, cyfodaf; pan eisteddwyf mewn tywyllwch, yr Arglwydd a lewyrcha i mi.

9. Dioddefaf ddig yr Arglwydd, canys pechais i'w erbyn; hyd oni ddadleuo fy nghwyn, a gwneuthur i mi farn: efe a'm dwg allan i'r goleuad, a mi a welaf ei gyfiawnder ef.

10. A'm gelynes a gaiff weled, a chywilydd a'i gorchuddia hi, yr hon a ddywedodd wrthyf, Mae yr Arglwydd dy Dduw? fy llygaid a'i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd.

11. Y dydd yr adeiledir dy furiau, y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf.

12. Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria, ac o'r dinasoedd cedyrn, ac o'r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd.

13. Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, am ffrwyth eu gweithredoedd.

14. Portha dy bobl â'th wialen, defaid dy etifeddiaeth, y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig, yng nghanol Carmel: porant yn Basan a Gilead, megis yn y dyddiau gynt.

Darllenwch bennod gyflawn Micha 7