1. Gwae fi! canys ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf, fel lloffion grawnwin y cynhaeaf gwin; nid oes swp o rawn i'w bwyta; fy enaid a flysiodd yr aeddfed ffrwyth cyntaf.
2. Darfu am y duwiol oddi ar y ddaear, ac nid oes un uniawn ymhlith dynion; cynllwyn y maent oll am waed; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd.
3. I wneuthur drygioni â'r ddwy law yn egnïol, y tywysog a ofyn, a'r barnwr am wobr; a'r hwn sydd fawr a ddywed lygredigaeth ei feddwl: felly y plethant ef.
4. Y gorau ohonynt sydd fel miaren, yr unionaf yn arwach na chae drain; dydd dy wylwyr, a'th ofwy, sydd yn dyfod: bellach y bydd eu penbleth hwynt.
5. Na chredwch i gyfaill, nac ymddiriedwch i dywysog: cadw ddrws dy enau rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes.