Hen Destament

Testament Newydd

Micha 5:8-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd.

9. Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a'th holl elynion a dorrir ymaith.

10. A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr Arglwydd, i mi dorri ymaith dy feirch o'th ganol di, a dinistrio dy gerbydau:

11. Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd:

12. A thorraf ymaith o'th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid:

13. Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a'th ddelwau o'th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun:

14. Diwreiddiaf dy lwyni o'th ganol hefyd; a dinistriaf dy ddinasoedd.

15. Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant.

Darllenwch bennod gyflawn Micha 5