Hen Destament

Testament Newydd

Micha 5:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr awr hon ymfyddina, merch y fyddin; gosododd gynllwyn i'n herbyn: trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern.

2. A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel; yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb.

3. Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i'r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel.

4. Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr Arglwydd, yn ardderchowgrwydd enw yr Arglwydd ei Dduw; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear.

5. A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i'n tir ni: a phan sathro o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o'r dynion pennaf.

6. A hwy a ddinistriant dir Asyria â'r cleddyf, a thir Nimrod â'i gleddyfau noethion ei hun: ac efe a'n hachub rhag yr Asyriad, pan ddêl i'n tir, a phan sathro o fewn ein terfynau.

7. A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr Arglwydd, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion.

8. A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd.

9. Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a'th holl elynion a dorrir ymaith.

10. A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr Arglwydd, i mi dorri ymaith dy feirch o'th ganol di, a dinistrio dy gerbydau:

11. Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd:

12. A thorraf ymaith o'th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid:

13. Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a'th ddelwau o'th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun:

14. Diwreiddiaf dy lwyni o'th ganol hefyd; a dinistriaf dy ddinasoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Micha 5