Hen Destament

Testament Newydd

Micha 4:6-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a'r hon a ddrygais:

7. A gwnaf y gloff yn weddill, a'r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; a'r Arglwydd a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth.

8. A thithau, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem.

9. Paham gan hynny y gwaeddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a'th gymerodd megis gwraig yn esgor.

Darllenwch bennod gyflawn Micha 4