Hen Destament

Testament Newydd

Micha 4:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bydd yn niwedd y dyddiau, i fynydd tŷ yr Arglwydd fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato.

2. A chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr Arglwydd, ac i dŷ Dduw Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerwsalem.

3. Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell; a thorrant eu cleddyfau yn sychau, a'u gwaywffyn yn bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.

4. Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i'w dychrynu; canys genau Arglwydd y lluoedd a'i llefarodd.

5. Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a ninnau a rodiwn yn enw yr Arglwydd ein Duw byth ac yn dragywydd.

6. Yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a'r hon a ddrygais:

7. A gwnaf y gloff yn weddill, a'r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; a'r Arglwydd a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth.

8. A thithau, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn Micha 4