Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7

Hen Destament

Testament Newydd

Micha 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dywedais hefyd, Gwrandewch, atolwg, penaethiaid Jacob, a thywysogion tŷ Israel: Onid i chwi y perthyn gwybod barn?

2. Y rhai ydych yn casáu y da, ac yn hoffi y drwg, gan flingo eu croen oddi amdanynt, a'u cig oddi wrth eu hesgyrn;

3. Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl, a'u croen a flingant oddi amdanynt, a'u hesgyrn a ddrylliant, ac a friwant, megis i'r crochan, ac fel cig yn y badell.

4. Yna y llefant ar yr Arglwydd, ac nis etyb hwynt; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, fel y buant ddrwg yn eu gweithredoedd.

5. Fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy mhobl, y rhai a frathant â'u dannedd, ac a lefant, Heddwch: a'r neb ni roddo yn eu pennau hwynt, darparant ryfel yn ei erbyn.

6. Am hynny y bydd nos i chwi, fel na chaffoch weledigaeth; a thywyllwch i chwi, fel na chaffoch ddewiniaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi, a'r dydd a ddua arnynt.

7. Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a'r dewiniaid a waradwyddir; ie, pawb ohonynt a gaeant ar eu genau, am na rydd Duw ateb.

8. Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr Arglwydd, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a'i bechod i Israel.

9. Gwrandewch hyn, atolwg, penaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion tŷ Israel, y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn, ac yn gwyro pob uniondeb.

10. Adeiladu Seion y maent â gwaed, a Jerwsalem ag anwiredd.

11. Ei phenaethiaid a roddant farn er gwobr, a'i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog, a'r proffwydi a ddewiniant er arian; eto wrth yr Arglwydd yr ymgynhaliant, gan ddywedyd, Onid yw yr Arglwydd i'n plith? ni ddaw drwg arnom.

12. Am hynny o'ch achos chwi yr erddir Seion fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig.