Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 4:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'u llysg hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.

2. Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, â meddyginiaeth yn ei esgyll; a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig.

3. A chwi a fethrwch yr annuwiolion; canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd Arglwydd y lluoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Malachi 4