Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 3:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wele fi yn anfon fy nghennad, ac efe a arloesa y ffordd o'm blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr Arglwydd, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i'w deml; sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd Arglwydd y lluoedd.

2. Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tân y toddydd, ac fel sebon y golchyddion.

3. Ac efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian: ac efe a bura feibion Lefi, ac a'u coetha hwynt fel aur ac fel arian, fel y byddont yn offrymu i'r Arglwydd offrwm mewn cyfiawnder.

4. Yna y bydd melys gan yr Arglwydd offrwm Jwda a Jerwsalem, megis yn y dyddiau gynt, ac fel y blynyddoedd gynt.

Darllenwch bennod gyflawn Malachi 3