Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yr awr hon, chwi offeiriaid, i chwi y mae y gorchymyn hwn.

2. Oni wrandewch, ac oni ystyriwch, i roddi anrhydedd i'm henw i, medd Arglwydd y lluoedd; yna mi a anfonaf felltith arnoch chwi, ac a felltithiaf eich bendithion chwi: ie, myfi a'u melltithiais eisoes, am nad ydych yn ystyried.

3. Wele fi yn llygru eich had chwi, a thaenaf dom ar eich wynebau, sef tom eich uchel wyliau; ac un a'ch cymer chwi ato ef.

4. Hefyd cewch wybod mai myfi a anfonais atoch y gorchymyn hwn, fel y byddai fy nghyfamod â Lefi, medd Arglwydd y lluoedd.

5. Fy nghyfamod ag ef oedd am fywyd a heddwch; a mi a'u rhoddais hwynt iddo am yr ofn â'r hwn y'm hofnodd, ac yr arswydodd o flaen fy enw.

6. Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau: mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi, a llaweroedd a drodd efe oddi wrth anwiredd.

7. Canys gwefusau yr offeiriad a gadwant wybodaeth, a'r gyfraith a geisiant o'i enau ef: oherwydd cennad Arglwydd y lluoedd yw efe.

8. Ond chwi a giliasoch allan o'r ffordd, ac a barasoch i laweroedd dramgwyddo wrth y gyfraith: llygrasoch gyfamod Lefi, medd Arglwydd y lluoedd.

9. Am hynny minnau hefyd a'ch gwneuthum chwi yn ddirmygus ac yn ddiystyr gan yr holl bobl; megis na chadwasoch fy ffyrdd i, ond bod yn derbyn wynebau yn y gyfraith.

10. Onid un Tad sydd i ni oll? onid un Duw a'n creodd ni? paham y gwnawn yn anffyddlon bob un yn erbyn ei frawd, gan halogi cyfamod ein tadau?

11. Jwda a wnaeth yn anffyddlon, a ffieidd-dra a wnaethpwyd yn Israel ac yn Jerwsalem: canys Jwda a halogodd sancteiddrwydd yr Arglwydd, yr hwn a hoffasai, ac a briododd ferch duw dieithr.

12. Yr Arglwydd a dyr ymaith y gŵr a wnêl hyn; yr athro a'r disgybl o bebyll Jacob, ac offrymydd offrwm i Arglwydd y lluoedd.

13. Hyn hefyd eilwaith a wnaethoch, gan orchuddio â dagrau allor yr Arglwydd trwy wylofain a gweiddi; fel nad edrych efe mwyach ar yr offrwm, ac na chymer ef yn fodlon o'ch llaw chwi.

14. Er hynny chwi a ddywedwch, Pa herwydd? Oherwydd mai yr Arglwydd a fu dyst rhyngot ti a rhwng gwraig dy ieuenctid, yr hon y buost anffyddlon iddi; er ei bod yn gymar i ti, ac yn wraig dy gyfamod.

15. Onid un a wnaeth efe? a'r ysbryd yng ngweddill ganddo. A phaham un? I geisio had duwiol. Am hynny gwyliwch ar eich ysbryd, ac na fydded neb anffyddlon yn erbyn gwraig ei ieuenctid.

16. Pan gasaech di hi, gollwng hi ymaith, medd yr Arglwydd, Duw Israel: canys gorchuddio y mae efe drais â'i wisg, medd Arglwydd y lluoedd: gan hynny gwyliwch ar eich ysbryd, na fyddoch anffyddlon.

17. Blinasoch yr Arglwydd â'ch geiriau: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y blinasom ef? Am i chwi ddywedyd, Pob gwneuthurwr drwg sydd dda yng ngolwg yr Arglwydd, ac iddynt y mae efe yn fodlon; neu, Pa le y mae Duw y farn?