Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 1:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Baich gair yr Arglwydd at Israel trwy law Malachi.

2. Hoffais chwi, medd yr Arglwydd: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr hoffaist ni? Onid brawd oedd Esau i Jacob? medd yr Arglwydd: eto Jacob a hoffais,

3. Ac Esau a gaseais, ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffeithwch, a'i etifeddiaeth i ddreigiau yr anialwch.

4. Lle y dywed Edom, Tlodwyd ni, eto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Hwy a adeiladant, ond minnau a fwriaf i lawr; a galwant hwynt yn Ardal drygioni, a'r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd.

5. Eich llygaid hefyd a welant, a chwithau a ddywedwch, Mawrygir yr Arglwydd oddi ar derfyn Israel.

6. Mab a anrhydedda ei dad, a gweinidog ei feistr: ac os ydwyf fi dad, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn? medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi yr offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dirmygasom dy enw di?

7. Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig; a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr halogasom di? Am i chwi ddywedyd, Dirmygus yw bwrdd yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Malachi 1