Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 9:7-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.

8. Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun.

9. A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a'i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor.

10. Ond efe a losgodd ar yr allor o'r aberth dros bechod y gwêr a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

11. A'r cig a'r croen a losgodd efe yn tân, o'r tu allan i'r gwersyll.

12. Ac efe a laddodd y poethoffrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch.

13. A dygasant y poethoffrwm ato, gyda'i ddarnau, a'i ben hefyd; ac efe a'u llosgodd hwynt ar yr allor.

14. Ac efe a olchodd y perfedd a'r traed, ac a'u llosgodd hwynt ynghyd â'r offrwm poeth ar yr allor.

15. Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a'i lladdodd, ac a'i hoffrymodd dros bechod, fel y cyntaf.

16. Ac efe a ddug y poethoffrwm, ac a'i hoffrymodd yn ôl y ddefod.

17. Ac efe a ddug y bwyd‐offrwm: ac a lanwodd ei law ohono, ac a'i llosgodd ar yr allor, heblaw poethoffrwm y bore.

18. Ac efe a laddodd y bustach a'r hwrdd, yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch.

19. Dygasant hefyd wêr y bustach a'r hwrdd, y gloren, a'r weren fol, a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu.

20. A gosodasant y gwêr ar y parwydennau; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor.

21. Y parwydennau hefyd, a'r ysgwyddog ddeau, a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynnodd Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 9