Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 9:11-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A'r cig a'r croen a losgodd efe yn tân, o'r tu allan i'r gwersyll.

12. Ac efe a laddodd y poethoffrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch.

13. A dygasant y poethoffrwm ato, gyda'i ddarnau, a'i ben hefyd; ac efe a'u llosgodd hwynt ar yr allor.

14. Ac efe a olchodd y perfedd a'r traed, ac a'u llosgodd hwynt ynghyd â'r offrwm poeth ar yr allor.

15. Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a'i lladdodd, ac a'i hoffrymodd dros bechod, fel y cyntaf.

16. Ac efe a ddug y poethoffrwm, ac a'i hoffrymodd yn ôl y ddefod.

17. Ac efe a ddug y bwyd‐offrwm: ac a lanwodd ei law ohono, ac a'i llosgodd ar yr allor, heblaw poethoffrwm y bore.

18. Ac efe a laddodd y bustach a'r hwrdd, yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch.

19. Dygasant hefyd wêr y bustach a'r hwrdd, y gloren, a'r weren fol, a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu.

20. A gosodasant y gwêr ar y parwydennau; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor.

21. Y parwydennau hefyd, a'r ysgwyddog ddeau, a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynnodd Moses.

22. A chododd Aaron ei law tuag at y bobl, ac a'u bendithiodd; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod, a'r poethoffrwm, a'r ebyrth hedd.

23. A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i'r holl bobl.

24. A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a ysodd y poethoffrwm, a'r gwêr, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwaeddasant, a chwympasant ar eu hwynebau.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 9