1. Yna y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a'i feibion, a henuriaid Israel;
2. Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymer i ti lo ieuanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, o rai perffaith‐gwbl, a dwg hwy gerbron yr Arglwydd.
3. Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, blwyddiaid, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm;
4. Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu gerbron yr Arglwydd; a bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd heddiw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi.
5. A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod: a'r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant gerbron yr Arglwydd.
6. A dywedodd Moses, Dyma'r peth a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi.