Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 7:2-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Yn y man lle y lladdant y poethoffrwm, y lladdant yr aberth dros gamwedd; a'i waed a daenella efe ar yr allor o amgylch.

3. A'i holl wêr a offryma efe ohono; y gloren hefyd, a'r weren fol.

4. A'r ddwy aren, a'r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â'r arennau, a dynn efe ymaith.

5. A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd: aberth dros gamwedd yw.

6. Pob gwryw ymysg yr offeiriaid a'i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef: sancteiddiolaf yw.

7. Fel y mae yr aberth dros bechod, felly y bydd yr aberth dros gamwedd; un gyfraith sydd iddynt: yr offeiriad, yr hwn a wna gymod ag ef, a'i piau.

8. A'r offeiriad a offrymo boethoffrwm neb, yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poethoffrwm a offrymodd efe.

9. A phob bwyd‐offrwm a graser mewn ffwrn, a'r hyn oll a wneler mewn padell, neu ar radell, fydd eiddo'r offeiriad a'i hoffrymo.

10. A phob bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew, neu yn sych, a fydd i holl feibion Aaron, bob un fel ei gilydd.

11. Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offryma efe i'r Arglwydd.

12. Os yn lle diolch yr offryma efe hyn; offrymed gyda'r aberth diolch deisennau croyw, wedi eu cymysgu trwy olew; ac afrllad croyw, wedi eu hiro ag olew; a pheilliaid wedi ei grasu yn deisennau, wedi eu cymysgu ag olew.

13. Heblaw'r teisennau, offrymed fara lefeinllyd, yn ei offrwm, gyda'i hedd‐aberth o ddiolch.

14. Ac offrymed o hyn un dorth o'r holl offrwm, yn offrwm dyrchafael i'r Arglwydd; a bydded hwnnw eiddo'r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hedd.

15. A chig ei hedd‐aberth o ddiolch a fwyteir y dydd yr offrymir ef: na adawer dim ohono hyd y bore.

16. Ond os adduned, neu offrwm gwirfodd, fydd aberth ei offrwm ef; y dydd yr offrymo efe ei aberth, bwytaer ef: a thrannoeth bwytaer yr hyn fyddo yn weddill ohono.

17. Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd, llosger yn tân.

18. Ac os bwyteir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir bodlon i'r hwn a'i hoffrymo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieiddbeth fydd: a'r dyn a fwyty ohono, a ddwg ei anwiredd.

19. A'r cig a gyffyrddo â dim aflan, ni fwyteir; mewn tân y llosgir ef: a'r cig arall, pob glân a fwyty ohono.

20. A'r dyn a fwytao gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i'r Arglwydd, a'i aflendid arno; torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.

21. Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef ag aflendid dyn, neu ag anifail aflan, neu ag un ffieiddbeth aflan, a bwyta o gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i'r Arglwydd; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 7