Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 6:22-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A'r offeiriad o'i feibion ef, yr hwn a eneinir yn ei le ef, gwnaed hyn, trwy ddeddf dragwyddol: llosger y cwbl i'r Arglwydd.

23. A phob bwyd‐offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll: na fwytaer ef.

24. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

25. Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Yn y lle y lleddir y poethoffrwm, y lleddir yr aberth dros bechod gerbron yr Arglwydd: sancteiddiolaf yw efe.

26. Yr offeiriad a'i hoffrymo dros bechod, a'i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef, yng nghynteddfa pabell y cyfarfod.

27. Beth bynnag a gyffyrddo â'i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o'i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno.

28. A thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo: ond os mewn llestr pres y berwir ef, ysgwrier a golcher ef mewn dwfr.

29. Bwytaed pob gwryw ymysg yr offeiriaid ef: sancteiddiolaf yw efe.

30. Ac na fwytaer un offrwm dros bechod, yr hwn y dyger o'i waed i babell y cyfarfod, i wneuthur cymod yn y lle sanctaidd; ond llosger mewn tân.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 6