Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 6:13-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Cyneuer y tân bob amser ar yr allor; na ddiffodded.

14. Dyma hefyd gyfraith y bwyd‐offrwm. Dyged meibion Aaron ef gerbron yr Arglwydd, o flaen yr allor:

15. A choded ohono yn ei law o beilliaid y bwyd‐offrwm, ac o'i olew, a'r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd‐offrwm; a llosged ei goffadwriaeth ef ar yr allor, yn arogl peraidd i'r Arglwydd.

16. A'r gweddill ohono a fwyty Aaron a'i feibion: yn groyw y bwyteir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytânt ef.

17. Na phober ef trwy lefain. Rhoddais ef yn rhan iddynt o'm haberthau tanllyd: peth sancteiddiolaf yw hyn, megis yr aberth dros bechod, a'r aberth dros gamwedd.

18. Pob gwryw o blant Aaron a fwytânt hyn: deddf dragwyddol fydd yn eich cenedlaethau am aberthau tanllyd yr Arglwydd; pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.

19. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

20. Dyma offrwm Aaron a'i feibion, yr hwn a offrymant i'r Arglwydd, ar y dydd yr eneinier ef. Degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a'i hanner brynhawn.

21. Gwneler ef trwy olew mewn padell: yna y dygi ef i mewn wedi ei grasu; ac offryma ddarnau y bwyd‐offrwm wedi ei grasu, yn arogl peraidd i'r Arglwydd.

22. A'r offeiriad o'i feibion ef, yr hwn a eneinir yn ei le ef, gwnaed hyn, trwy ddeddf dragwyddol: llosger y cwbl i'r Arglwydd.

23. A phob bwyd‐offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll: na fwytaer ef.

24. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

25. Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Yn y lle y lleddir y poethoffrwm, y lleddir yr aberth dros bechod gerbron yr Arglwydd: sancteiddiolaf yw efe.

26. Yr offeiriad a'i hoffrymo dros bechod, a'i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef, yng nghynteddfa pabell y cyfarfod.

27. Beth bynnag a gyffyrddo â'i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o'i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno.

28. A thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo: ond os mewn llestr pres y berwir ef, ysgwrier a golcher ef mewn dwfr.

29. Bwytaed pob gwryw ymysg yr offeiriaid ef: sancteiddiolaf yw efe.

30. Ac na fwytaer un offrwm dros bechod, yr hwn y dyger o'i waed i babell y cyfarfod, i wneuthur cymod yn y lle sanctaidd; ond llosger mewn tân.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 6