Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 5:10-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A'r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ôl y ddefod: a'r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.

11. Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran effa o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw.

12. A dyged hynny at yr offeiriad: a chymered yr offeiriad ohono lonaid ei law yn goffadwriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i'r Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.

13. A gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o'r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i'r offeiriad y gweddill, megis o'r bwyd‐offrwm.

14. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

15. Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gysegrwyd i'r Arglwydd; yna dyged i'r Arglwydd dros ei gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o'r praidd, gyda'th bris di o siclau arian, yn ôl sicl y cysegr, yn aberth dros gamwedd.

16. A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysegredig, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.

17. Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchmynion yr Arglwydd, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, eto euog fydd, a'i anwiredd a ddwg.

18. A dyged hwrdd perffaith‐gwbl o'r praidd, gyda'th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei amryfusedd a gamgymerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo.

19. Aberth dros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddiau yn erbyn yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 5