Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 5:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.

2. Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe.

3. Neu pan gyffyrddo ag aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o'i blegid, a'r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw.

4. Neu os dyn a dwng, gan draethu â'r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a'r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn.

5. A phan fyddo efe euog o un o hyn; yna cyffesed yr hyn y pechodd ynddo:

6. A dyged i'r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o'r praidd, oen neu fyn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod.

7. Ond os ei law ni chyrraedd werth oen, dyged i'r Arglwydd, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn aberth dros bechod, a'r llall yn boethoffrwm.

8. A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith.

9. A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a gwasger y rhan arall o'r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod.

10. A'r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ôl y ddefod: a'r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 5