Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 27:18-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Ond os wedi'r jiwbili y sancteiddia efe ei faes; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo, yn ôl y blynyddoedd fyddant yn ôl, hyd flwyddyn y jiwbili, a lleihaer ar dy bris di.

19. Ac os yr hwn a'i sancteiddiodd gan brynu a brŷn y maes; yna rhodded bumed ran arian dy bris di yn ychwaneg ato, a bydded iddo ef.

20. Ac onis gollwng y maes, neu os gwerthodd y maes i ŵr arall; ni cheir ei ollwng mwy.

21. A'r maes fydd, pan elo efe allan yn y jiwbili, yn gysegredig i'r Arglwydd, fel maes diofryd: a bydded yn feddiant i'r offeiriad.

22. Ac os ei dir prŷn, yr hwn ni bydd o dir ei etifeddiaeth, a sancteiddia efe i'r Arglwydd;

23. Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jiwbili; a rhodded yntau dy bris di yn gysegredig i'r Arglwydd, y dydd hwnnw.

24. Y maes a â yn ei ôl, flwyddyn y jiwbili, i'r hwn y prynasid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir.

25. A phob pris i ti fydd wrth sicl y cysegr: ugain gera fydd y sicl.

26. Ond y cyntaf‐anedig o anifail, yr hwn sydd flaenffrwyth i'r Arglwydd, na chysegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo: eiddo yr Arglwydd yw efe.

27. Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan; yna rhyddhaed ef yn dy bris di, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato: ac onis rhyddha, yna gwerther ef yn dy bris di.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 27