21. Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau.
22. Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a'ch gwna chwi yn ddi‐blant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a'ch lleiha chwi; a'ch ffyrdd a wneir yn anialwch.
23. Ac os wrth hyn ni chymerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi;
24. Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a'ch cosbaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau.
25. A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddial fy nghyfamod: a phan ymgasgloch i'ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i'ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn.
26. A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwytewch, ac ni'ch digonir chwi.
27. Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, ond rhodio yng ngwrthwyneb i mi;
28. Minnau a rodiaf yng ngwrthwyneb i chwithau mewn llid; a myfi, ie myfi, a'ch cosbaf chwi eto saith mwy am eich pechodau.
29. A chwi a fwytewch gnawd eich meibion, a chnawd eich merched a fwytewch.
30. Eich uchelfeydd hefyd a ddinistriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a'm henaid a'ch ffieiddia chwi.
31. A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinistriaf eich cysegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd.
32. A mi a ddinistriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o'i herwydd.
33. Chwithau a wasgaraf ymysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl; a'ch tir fydd ddiffeithwch, a'ch dinasoedd yn anghyfannedd.
34. Yna y mwynha'r tir ei Sabothau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion; yna y gorffwys y tir, ac y mwynha ei Sabothau.