Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 22:18-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o ddieithr yn Israel, a offrymo ei offrwm yn ôl ei holl addunedau, ac yn ôl ei holl roddion gwirfodd, y rhai a offrymant i'r Arglwydd yn boethoffrwm;

19. Offrymwch wrth eich ewyllys eich hun, un gwryw perffaith‐gwbl, o'r eidionau, o'r defaid, neu o'r geifr.

20. Nac offrymwch ddim y byddo anaf arno; oherwydd ni bydd efe gymeradwy drosoch.

21. A phan offrymo gŵr aberth hedd i'r Arglwydd, gan neilltuo ei adduned, neu rodd ewyllysgar o'r eidionau, neu o'r praidd, bydded berffaith‐gwbl, fel y byddo gymeradwy: na fydded un anaf arno.

22. Y dall, neu'r ysig, neu'r anafus, neu'r dafadennog, neu'r crachlyd, neu'r clafrllyd, nac offrymwch hwy i'r Arglwydd, ac na roddwch aberth tanllyd ohonynt ar allor yr Arglwydd.

23. A'r eidion, neu yr oen a fyddo gormod neu ry fychain ei aelodau, gellwch ei offrymu yn offrwm gwirfodd; ond dros adduned ni bydd cymeradwy.

24. Nac offrymwch i'r Arglwydd ddim wedi llethu, neu ysigo, neu ddryllio, neu dorri; ac na wnewch yn eich tir y fath beth.

25. Ac nac offrymwch o law un dieithr fwyd eich Duw o'r holl bethau hyn: canys y mae eu llygredigaeth ynddynt; anaf sydd arnynt: ni byddant gymeradwy drosoch.

26. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

27. Pan aner eidion, neu ddafad, neu afr, bydded saith niwrnod dan ei fam; o'r wythfed dydd ac o hynny allan y bydd cymeradwy yn offrwm o aberth tanllyd i'r Arglwydd.

28. Ac am fuwch neu ddafad, na leddwch hi a'i llwdn yn yr un dydd.

29. A phan aberthoch aberth diolch i'r Arglwydd, offrymwch wrth eich ewyllys eich hunain.

30. Y dydd hwnnw y bwyteir ef; na weddillwch ohono hyd y bore: myfi yw yr Arglwydd.

31. Cedweh chwithau fy ngorchmynion, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd.

32. Ac na halogwch fy enw sanctaidd, ond sancteiddier fi ymysg meibion Israel: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd,

33. Yr hwn a'ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, i fod yn Dduw i chwi: myfi yw yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 22