Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 22:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, am iddynt ymneilltuo oddi wrth bethau cysegredig meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, yn y pethau y maent yn eu cysegru i mi: myfi yw yr Arglwydd.

3. Dywed wrthynt, Pwy bynnag o'ch holl hiliogaeth, trwy eich cenedlaethau, a nesao at y pethau cysegredig a gysegro meibion Israel i'r Arglwydd, a'i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yw yr Arglwydd.

4. Na fwytaed neb o hiliogaeth Aaron o'r pethau cysegredig, ac yntau yn wahanglwyfus, neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhaer ef: na'r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw, na'r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had;

5. Na'r un a gyffyrddo ag un ymlusgiad, trwy yr hwn y gallo fod yn aflan, neu â dyn y byddai aflan o'i blegid, pa aflendid bynnag fyddo arno:

6. A'r dyn a gyffyrddo ag ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwytaed o'r pethau cysegredig, oddieithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr.

7. A phan fachludo'r haul, glân fydd; ac wedi hynny bwytaed o'r pethau cysegredig: canys ei fwyd ef yw hwn.

8. Ac na fwytaed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei ysglyfaethu, i fod yn aflan o'i blegid: myfi yw yr Arglwydd.

9. Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain, i farw o'i blegid, pan halogant hi: myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt.

10. Ac na fwytaed un alltud o'r peth cysegredig: dieithrddyn yr offeiriad, a'r gwas cyflog, ni chaiff fwyta'r peth cysegredig.

11. Ond pan bryno'r offeiriad ddyn am ei arian, hwnnw a gaiff fwyta ohono, a'r hwn a aner yn ei dŷ ef: y rhai hyn a gânt fwyta o'i fara ef.

12. A merch yr offeiriad, pan fyddo hi eiddo gŵr dieithr, ni chaiff hi fwyta o offrwm y pethau cysegredig.

13. Ond merch yr offeiriad, os gweddw fydd hi, neu wedi ysgar, a heb blant iddi, ac wedi dychwelyd i dŷ ei thad, a gaiff fwyta o fara ei thad, megis yn ei hieuenctid; ac ni chaiff neb dieithr fwyta ohono.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 22