16. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
17. Llefara wrth Aaron, gan ddywedyd, Na nesaed un o'th had di trwy eu cenedlaethau, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymu bara ei Dduw:
18. Canys ni chaiff un gŵr y byddo anaf arno nesáu; y gŵr dall, neu'r cloff, neu'r trwyndwn, neu'r neb y byddo dim gormod ynddo;
19. Neu'r gŵr y byddo iddo droed twn, neu law don;
20. Neu a fyddo yn gefngrwm, neu yn gor, neu â magl neu bysen ar ei lygad, neu yn grachlyd, neu yn glafrllyd, neu wedi ysigo ei eirin.
21. Na nesaed un gŵr o had Aaron yr offeiriad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymu ebyrth tanllyd yr Arglwydd: anaf sydd arno; na nesaed i offrymu bara ei Dduw.
22. Bara ei Dduw, o'r pethau sanctaidd cysegredig, ac o'r pethau cysegredig, a gaiff efe ei fwyta.
23. Eto nac aed i mewn at y wahanlen, ac na nesaed at yr allor, am fod anaf arno; ac na haloged fy nghysegroedd: canys myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt.
24. A llefarodd Moses hynny wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel.