3. A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a'i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o'i had i Moloch, i aflanhau fy nghysegr, ac i halogi fy enw sanctaidd.
4. Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch,) ac nis lladdant ef:
5. Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb a ddilynant ei buteindra ef, gan buteinio yn ôl Moloch, o fysg eu pobl.
6. A'r dyn a dro ar ôl dewiniaid, a brudwyr, i buteinio ar eu hôl hwynt; gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.
7. Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
8. Cedwch hefyd fy neddfau, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd.
9. Os bydd neb a felltigo ei dad neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dad neu ei fam a felltigodd efe; ei waed fydd arno ei hun.
10. A'r gŵr a odinebo gyda gwraig gŵr arall, sef yr hwn a odinebo gyda gwraig ei gymydog, lladder yn farw y godinebwr a'r odinebwraig.
11. A'r gŵr a orweddo gyda gwraig ei dad, a noethodd noethni ei dad: lladder yn feirw hwynt ill dau; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
12. Am y gŵr a orweddo ynghyd â'i waudd, lladder yn feirw hwynt ill dau: cymysgedd a wnaethant; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
13. A'r gŵr a orweddo gyda gŵr, fel gorwedd gyda gwraig, ffieidd‐dra a wnaethant ill dau: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
14. Y gŵr a gymero wraig a'i mam, ysgelerder yw hynny: llosgant ef a hwythau yn tân; ac na fydded ysgelerder yn eich mysg.
15. A lladder yn farw y gŵr a ymgydio ag anifail; lladdant hefyd yr anifail.
16. A'r wraig a êl at un anifail, i orwedd dano, lladd di y wraig a'r anifail hefyd: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
17. A'r gŵr a gymero ei chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithau ei noethni yntau: gwaradwydd yw hynny; torrer hwythau ymaith yng ngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe; efe a ddwg ei anwiredd.