Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 20:11-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A'r gŵr a orweddo gyda gwraig ei dad, a noethodd noethni ei dad: lladder yn feirw hwynt ill dau; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

12. Am y gŵr a orweddo ynghyd â'i waudd, lladder yn feirw hwynt ill dau: cymysgedd a wnaethant; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

13. A'r gŵr a orweddo gyda gŵr, fel gorwedd gyda gwraig, ffieidd‐dra a wnaethant ill dau: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

14. Y gŵr a gymero wraig a'i mam, ysgelerder yw hynny: llosgant ef a hwythau yn tân; ac na fydded ysgelerder yn eich mysg.

15. A lladder yn farw y gŵr a ymgydio ag anifail; lladdant hefyd yr anifail.

16. A'r wraig a êl at un anifail, i orwedd dano, lladd di y wraig a'r anifail hefyd: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

17. A'r gŵr a gymero ei chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithau ei noethni yntau: gwaradwydd yw hynny; torrer hwythau ymaith yng ngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe; efe a ddwg ei anwiredd.

18. A'r gŵr a orweddo gyda gwraig glaf o'i misglwyf, ac a noetho ei noethni hi; ei diferlif hi a ddatguddiodd efe, a hithau a ddatguddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun: am hynny torrer hwynt ill dau o fysg eu pobl.

19. Ac na noetha noethni chwaer dy fam, neu chwaer dy dad; oherwydd ei gyfnesaf ei hun y mae yn ei noethi: dygant eu hanwiredd.

20. A'r gŵr a orweddo gyda gwraig ei ewythr frawd ei dad, a noetha noethni ei ewythr: eu pechod a ddygant; byddant feirw yn ddi‐blant.

21. A'r gŵr a gymero wraig ei frawd, (peth aflan yw hynny,) efe a noethodd noethni ei frawd: di‐blant fyddant.

22. Am hynny cedwch fy holl ddeddfau, a'm holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt; fel na chwydo'r wlad chwi, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i breswylio ynddi.

23. Ac na rodiwch yn neddfau'r genedl yr ydwyf yn eu bwrw allan o'ch blaen chwi: oherwydd yr holl bethau hyn a wnaethant; am hynny y ffieiddiais hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 20