Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 19:35-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur.

36. Bydded i chwi gloriannau cyfiawn, gerrig cyfiawn, effa gyfiawn, a hin gyfiawn: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi, yr hwn a'ch dygais allan o dir yr Aifft.

37. Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a'm holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr Arglwydd ydwyf fi.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 19