Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 19:2-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr Arglwydd eich Duw chwi.

3. Ofnwch bob un ei fam, a'i dad; a chedwch fy Sabothau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

4. Na throwch at eilunod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

5. A phan aberthoch hedd‐aberth i'r Arglwydd, yn ôl eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny.

6. Ar y dydd yr offrymoch, a thrannoeth, y bwyteir ef: a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd.

7. Ond os gan fwyta y bwyteir ef o fewn y trydydd dydd, ffiaidd fydd efe; ni bydd gymeradwy.

8. A'r hwn a'i bwytao a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cysegredig beth yr Arglwydd; a'r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl.

9. A phan gynaeafoch gynhaeaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhaeaf.

10. Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gad hwynt i'r tlawd ac i'r dieithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.

11. Na ladratewch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymydog.

12. Ac na thyngwch i'm henw i yn anudon, ac na haloga enw dy Dduw; yr Arglwydd ydwyf fi.

13. Na chamatal oddi wrth dy gymydog, ac nac ysbeilia ef: na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y bore.

14. Na felltiga'r byddar, ac na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.

15. Na wnewch gam mewn barn; na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder.

16. Ac na rodia yn athrodwr ymysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymydog: yr Arglwydd ydwyf fi.

17. Na chasâ dy frawd yn dy galon: gan geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddioddef bechod ynddo.

18. Na ddiala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond câr dy gymydog megis ti dy hun: yr Arglwydd ydwyf fi.

19. Cedwch fy neddfau: na ad i'th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth, ac na heua dy faes ag amryw had; ac nac aed amdanat ddilledyn cymysg o lin a gwlân.

20. A phan fyddo i ŵr a wnelo â benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i ŵr, ac heb ei rhyddhau ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded iddynt gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 19