10. Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gad hwynt i'r tlawd ac i'r dieithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.
11. Na ladratewch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymydog.
12. Ac na thyngwch i'm henw i yn anudon, ac na haloga enw dy Dduw; yr Arglwydd ydwyf fi.
13. Na chamatal oddi wrth dy gymydog, ac nac ysbeilia ef: na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y bore.
14. Na felltiga'r byddar, ac na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
15. Na wnewch gam mewn barn; na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder.
16. Ac na rodia yn athrodwr ymysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymydog: yr Arglwydd ydwyf fi.
17. Na chasâ dy frawd yn dy galon: gan geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddioddef bechod ynddo.
18. Na ddiala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond câr dy gymydog megis ti dy hun: yr Arglwydd ydwyf fi.
19. Cedwch fy neddfau: na ad i'th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth, ac na heua dy faes ag amryw had; ac nac aed amdanat ddilledyn cymysg o lin a gwlân.
20. A phan fyddo i ŵr a wnelo â benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i ŵr, ac heb ei rhyddhau ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded iddynt gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd.