1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2. Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr Arglwydd eich Duw chwi.
3. Ofnwch bob un ei fam, a'i dad; a chedwch fy Sabothau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
4. Na throwch at eilunod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
5. A phan aberthoch heddâaberth i'r Arglwydd, yn ôl eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny.
6. Ar y dydd yr offrymoch, a thrannoeth, y bwyteir ef: a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd.
7. Ond os gan fwyta y bwyteir ef o fewn y trydydd dydd, ffiaidd fydd efe; ni bydd gymeradwy.
8. A'r hwn a'i bwytao a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cysegredig beth yr Arglwydd; a'r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl.