4. Fy marnedigaethau i a wnewch, a'm deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
5. Ie, cedwch fy neddfau a'm barnedigaethau: a'r dyn a'u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi yw yr Arglwydd.
6. Na nesaed neb at gyfnesaf ei gnawd, i ddinoethi eu noethni: myfi yw yr Arglwydd.
7. Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni.
8. Na ddinoetha noethni gwraig dy dad: noethni dy dad yw.
9. Noethni dy chwaer, merch dy dad, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan; na ddinoetha eu noethni hwynt.
10. Noethni merch dy fab, neu ferch dy ferch; na ddinoetha eu noethni hwynt: canys dy noethni di ydyw.
11. Noethni merch gwraig dy dad, plentyn dy dad, dy chwaer dithau yw hi; na ddinoetha ei noethni hi.
12. Na ddinoetha noethni chwaer dy dad: cyfnesaf dy dad yw hi.
13. Na ddinoetha noethni chwaer dy fam: canys cyfnesaf dy fam yw hi.
14. Na noetha noethni brawd dy dad; sef na nesâ at ei wraig ef: dy fodryb yw hi.
15. Na noetha noethni dy waudd: gwraig dy fab yw hi; na noetha ei noethni hi.
16. Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd: noethni dy frawd yw.
17. Na noetha noethni gwraig a'i merch; na chymer ferch ei mab hi, neu ferch ei merch hi, i noethi ei noethni hi: ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn: ysgelerder yw hyn.
18. Hefyd na chymer wraig ynghyd â'i chwaer, i'w chystuddio hi, gan noethi noethni honno gyda'r llall, yn ei byw hi.