22. Ac na orwedd gyda gwryw, fel gorwedd gyda benyw: ffieidd‐dra yw hynny.
23. Ac na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymysgedd yw hynny.
24. Nac ymhalogwch yn yr un o'r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o'ch blaen chwi:
25. A'r wlad a halogwyd: am hynny yr ydwyf yn ymweled â'i hanwiredd yn ei herbyn, fel y chwydo'r wlad ei thrigolion.
26. Ond cedwch chwi fy neddfau a'm barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o'r holl ffiaidd bethau hyn; na'r priodor, na'r dieithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg:
27. (Oherwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad, y rhai a fu o'ch blaen, a'r wlad a halogwyd;)
28. Fel na chwydo'r wlad chwithau, pan halogoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o'ch blaen.
29. Canys pwy bynnag a wnêl ddim o'r holl ffiaidd bethau hyn; torrir ymaith yr eneidiau a'u gwnelo o blith eu pobl.
30. Am hynny cedwch fy neddf i, heb wneuthur yr un o'r deddfau ffiaidd a wnaed o'ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.